Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 10 Ionawr 2019
Amser:
09.20 -
12.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5103
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Michelle Brown AC Hefin David AC Suzy Davies AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Jack Sargeant AC |
Tystion: |
Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg Steve Davies, Llywodraeth Cymru Claire Rowlands, Llywodraeth Cymru Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Karen Jewell, Llywodraeth Cymru Liz Davies, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Rebekah James (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan AC. Mynychodd Jack Sargeant AC fel dirprwy.
1.2
Llongyfarchodd y Cadeirydd Julie Morgan AC ar ei
phenodiad diweddar fel Dirprwy Weinidog a diolchodd iddi am ei
gwaith yn ystod ei hamser fel aelod o'r Pwyllgor.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o fanylion am gynrychiolaeth Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru yn y cyfarfodydd perthnasol o'r bwrdd newid.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn am y canlynol:
· Y data a’r wybodaeth am iechyd amenedigol y mae byrddau iechyd lleol a Llywodraeth Cymru yn eu casglu;
· Nifer y menywod sydd wedi cael eu lleoli ar ward seiciatrig oedolion heb eu plentyn oherwydd afiechyd meddwl amenedigol;
· Erbyn pryd y bydd disgwyl i bob bwrdd iechyd lleol ddilyn safonau ansawdd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion; a
· Gwybodaeth bellach am y cyfeiriadur gwasanaethau trydydd sector a sut y caiff ei ddiweddaru.
3.3 Mae’r Gweinidog wedi ymrwymo i ddarparu:
· ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018-19, amlinelliad cynhwysfawr o’r lleoliadau lle mae menywod wedi cael eu trin ar gyfer afiechyd meddwl amenedigol, gan gynnwys yn y gymuned, wardiau seiciatreg oedolion, ac unedau mamau a babanod; a
·
diweddariad bob chwe mis ar hynt y
gwaith mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor a datblygiadau
eraill ym maes gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng
Nghymru.
4.1
Cafodd y papurau eu nodi.
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod sesiynau'r bore.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i egluro eu hymgysylltiad â rhaglen ddiwygio'r cwricwlwm ac i gadarnhau dyddiad(au)/ fersiwn (neu fersiynau) o'r wybodaeth y seiliwyd eu tystiolaeth ysgrifenedig ar y cyd arni.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i fynd ar drywydd y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn ar wasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru.